Skip to content

Croeso i Storio Solar ac Ynni Bodelwyddan

Mae prosiect Storio Solar ac Ynni Bodelwyddan yn gynllun ynni adnewyddadwy newydd gyda solar a storio batris ar y ffin rhwng Conwy a Sir Ddinbych, Gogledd Cymru.

Bydd y prosiect yn darparu ffynhonnell ar gyfer cynhyrchu a storio ynni adnewyddadwy i helpu i leihau allyriadau carbon a chyfrannu at darged y Llywodraeth o allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050.

Mae’r prosiect yn cefnogi’n uniongyrchol ymrwymiad Llywodraeth y DU i wneud y DU yn archbŵer ynni glân drwy dreblu pŵer solar a gynhyrchir erbyn 2030.

Fel rhan o’r broses gynllunio, rydym yn ymgynghori â’r gymuned leol i gael eu barn a’u syniadau ar y cynigion sy’n dod i’r amlwg.

Amdanom ni

Mae prosiect Storio Solar ac Ynni Bodelwyddan yn cael ei ddatblygu gan Bodelwyddan Solar & Energy Storage Limited, rhan o Island Green Power (IGP). Wedi’i sefydlu yn 2013, rydym yn ddatblygwr blaenllaw o brosiectau solar ar raddfa cyfleustodau a systemau storio batri.  Rydym wedi cyflawni dros 34 o brosiectau solar yn llwyddiannus ledled y byd gyda mwy nag 1GW o gapasiti ynni gan gynnwys 17 o brosiectau ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Rydym yn darparu atebion ynni adnewyddadwy sy’n creu gwerth parhaol i’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, gan ddiogelu’r amgylchedd tra’n meithrin twf economaidd ac annibyniaeth ynni.

Yn y DU, rydym yn cyfrannu at y nod o ddod yn archbŵer ynni glân a chyflawni sero net erbyn 2050. Rydym hefyd yn cyfrannu at nodau sero-net Llywodraeth Cymru.

Y Prosiect

Bydd prosiect Storio Solar ac Ynni Bodelwyddan yn cynnwys fferm solar i’r gogledd-orllewin o Fodelwyddan a allai gynhyrchu hyd at 110MW o drydan, a safle system storio ynni batri (BESS) i’r de o Barc Busnes Llanelwy a all storio hyd at 110 MW o drydan.

Mae’r ddau safle ar wahân ond byddant yn cael eu cysylltu trwy geblau tanddaearol.

Y pwynt cyswllt yw is-orsaf Bodelwyddan, sydd gerllaw y safle BESS.

Safle Solar

  • Mae’r safle solar ar Ffordd Rhuddlan ac mae ganddo gyfanswm arwynebedd o 153.79 hectar.
  • Yn ôl ein harolygon pridd, mae dros 95% o’r safle ar dir amaethyddol Gradd 3b neu islaw ac felly nid yw’n cael ei ffermio fel tir Gorau a Mwyaf Amlbwrpas (BMV).
  • Hefyd mae fferm solar yn rhan ddeheuol y safle eisoes sydd wedi bod yn weithredol ers 2015.

Safle BESS

  • Mae safle Systemau Storio Ynni Batri (BESS) wedi’i leoli ar dir gerllaw is-orsaf Bodelwyddan, i’r de o Barc Busnes Llanelwy.
  • Mae ganddo gyfanswm arwynebedd o 6.52 hectar.
  • Mae’r safle wedi’i leoli ar dir amaethyddol Gradd 3b ac islaw (nid BMV).
  • Bydd y BESS yn cael ei gysylltu â’r safle solar gan tua 5km o geblau tanddaearol. Nid yw llwybr y ceblau wedi’i benderfynu eto,

Y Cyfle

Mae prosiect Storio Solar ac Ynni Bodelwyddan yn cynnwys dwy elfen – safle solar a safle system storio ynni batri (BESS).

  • Gallai’r safle solar:

  • Gynhyrchu hyd at 110MW o drydan

  • Arbed hyd at 35,569 tunnell o CO² y flwyddyn

  • Darparu digon o bŵer i fodloni gofynion trydan blynyddol 26,657 o gartrefi.

  • Gallai’r safle BESS:

  • Storio hyd at 110MW o drydan ar adegau o gynhyrchu ynni adnewyddadwy uchel a’i ollwng pan fo’r galw’n uchel neu pan fo cynhyrchiant adnewyddadwy yn isel.

Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys darparu Cronfa Budd Cymunedol i gefnogi prosiectau lleol, pe byddai'r cais yn cael caniatâd.

Ymgynghoriad

Rydym yn ddatblygwr sy’n cael ei arwain gan y gymuned a byddwn ni’n ymgynghori’n agos â chymunedau lleol, rhanddeiliaid a llunwyr polisi drwy gydol y broses cynllunio prosiect i ddeall pryderon ac yna defnyddio adborth i wella ein dyluniadau.

Rydym yn awyddus i glywed eich adborth ar ein cynigion newydd. Gallwch weld ein cynlluniau cychwynnol, cyfarfod â’n tîm prosiect a rhoi adborth yn ystod ein digwyddiadau:

Event 1

Dydd Mercher 29 Ionawr
2.30pm – 7.00pm
Canolfan Gymunedol Bodelwyddan

Event 2

Dydd Iau 30 Ionawr
2.00pm – 6.30pm
Canolfan Adnoddau Cymunedol
Tywyn a Bae Cinmel

Amserlenni'r prosiect

Rhagfyr
2024

Ymgysylltiad cyn ymgeisio cychwynnol â Chynghorau Bwrdeistref Sirol Conwy, Chyngor Bwrdeistref Sirol Sir Ddinbych, Phenderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) a chwmpasu Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA)

Ionawr - Chwefror
2025

Ymgynghoriad anstatudol 4 wythnos

Haf
2025

Ymgynghoriad statudol 6 wythnos

Diwedd
2025

Cyflwyno cais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS)

Diwedd 2026/
Dechrau 2027

Penderfyniad PEDW posibl (yn seiliedig ar yr amserlenni caniatáu a ragwelir ar hyn o bryd)

Diwedd 2027/
Dechrau 2028

Cyfnod adeiladu o tua 12-24 mis

2029

Cysylltiad grid y cytunwyd arno. Y posibilrwydd cynharaf i'r prosiect fod yn gwbl weithredol

Llyfrgell Dogfennau

Bydd y llyfrgell hon yn cael ei diweddaru wrth i'r cynnig ddatblygu a thrwy gydol y broses ymgynghori. Mae'r deunydd a gyflwynwyd yn ystod ein digwyddiadau ymgynghori anstatudol bellach ar gael i'w lawrlwytho.

Cwestiynau Cyffredin

Dweud eich dweud

Yn ogystal â darparu adborth yn ystod y digwyddiadau ymgynghori cymunedol ar 29 a 30 Ionawr 2025, gallwch roi gwybod i ni beth yw eich barn am y cynigion sy’n dod i’r amlwg ar gyfer Storio Solar ac Ynni Bodelwyddan drwy:

  • Ffurflen adborth
  • contact@bodelwyddansolar.co.uk
  • 01745 770513
  • Freepost GRASSHOPPER CONSULT (nid oes angen stamp na chyfeiriad ychwanegol)

Cyflwynwch eich adborth erbyn dydd Llun 10 Chwefror 2025.

Os hoffech dderbyn diweddariadau e-bost am y prosiect ar gerrig milltir allweddol, cofrestrwch trwy glicio yma.

Bydd y manylion cyswllt hyn yn eich rhoi mewn cysylltiad â Grasshopper Communications sy’n rheoli’r ymgynghoriad ar ran  Bodelwyddan Solar & Energy Storage Limited.

PRIVACY POLICY (ar gael yn Saesneg yn unig)